Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (42) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Tynnwyd cwestiwn 10 yn ol. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.24
3. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ardaloedd Menter
Dechreuodd yr eitem am 14.41
4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Adolygiad o Effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Cynaliadwy
Dogfen ategol
Dechreuodd yr eitem am 15.23
5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Cyhoeddi’r Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd
Dogfennau Ategol
Dechreuodd yr eitem
am15.56
6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y DU ynghylch Diogelu Rhyddidau
Dechreuodd yr eitem am 16.23
NDM4854 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn NDM4680, y darpariaethau pellach hynny a ddygwyd gerbron yn Bil y DU ynghylch Diogelu Rhyddidau sy’n ymwneud â rhyddid gwybodaeth a diogelu data, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Tachwedd 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.(iii)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7. Gorchymyn y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2012
Dechreuodd yr eitem am 16.26
NDM4901 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cytuno bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau etc) 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2012.
Gosodwyd y Memorandwm Esboniadol a memorandwm cydsyniad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8. Dadl ar y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol
Dechreuodd yr eitem am 16.29
NDM4902 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd wedi’i flaenoriaethu. Yn y cynllun hwn ad-drefnwyd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn 2010, er mwyn canolbwyntio ar wneud i’r system drafnidiaeth weithio’n well i helpu i fynd i’r afael â thlodi, gwella lles a hybu twf economaidd.
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oes gan y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol weledigaeth glir ar gyfer cysylltu Cymru nac i leihau’r broblem gynyddol gyda thagfeydd ar goridor yr M4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
32 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei Chynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, gan gydgysylltu â Llywodraeth y DU, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyllid sydd ar gael drwy’r rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
32 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu bod y cysylltiadau strategol rhwng y gogledd a’r de, a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, yn cael eu cadw yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ar ei newydd wedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
13 |
5 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi effaith y toriadau difrifol yng ngwariant cyfalaf Cymru ar brosiectau trafnidiaeth a’r angen i Lywodraeth Cymru nodi ffynonellau ychwanegol o gyfalaf at y diben hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
14 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gwrthwynebu’r bwriad yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol i ‘gynyddu capasiti’r gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru’ ar ôl 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth hedfan ehangach ar gyfer Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
32 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr darparwyr gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r trefniadau cyllido ar ôl mis Mawrth 2012 fel mater o frys.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
2 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4902 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd wedi’i flaenoriaethu. Yn y cynllun hwn ad-drefnwyd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn 2010, er mwyn canolbwyntio ar wneud i’r system drafnidiaeth weithio’n well i helpu i fynd i’r afael â thlodi, gwella lles a hybu twf economaidd.
Yn croesawu bod y cysylltiadau strategol rhwng y gogledd a’r de, a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, yn cael eu cadw yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ar ei newydd wedd.
Yn nodi effaith y toriadau difrifol yng ngwariant cyfalaf Cymru ar brosiectau trafnidiaeth a’r angen i Lywodraeth Cymru nodi ffynonellau ychwanegol o gyfalaf at y diben hwn.
Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr darparwyr gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r trefniadau cyllido ar ôl mis Mawrth 2012 fel mater o frys.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
9. Dadl ar yr Adroddiad ar y Strategaeth Microfusnesau
Dechreuodd yr eitem am 17.24
NDM4903 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu Adroddiad y Grwp Gorchwyl a Gorffen Microfusnes ac ymrwymiad y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i lunio cynllun ar gyfer gweithredu polisi a strategaeth Microfusnes.
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt 1 newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn nodi bod 331,400 o bobl yn gweithio i 193,010 microfusnes yng Nghymru ac yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chynnwys cymorth ychwanegol ar gyfer microfusnesau yn ei chyllideb.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
30 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
‘sy’n cynnwys mesurau i leihau baich ardrethi busnes’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod yr adroddiad “Prynu’n Ddoethach ar Adegau Mwy Anodd” yn cynnwys amcangyfrif Llywodraeth Cymru ei fod yn costio £20m i fusnesau gwblhau’r cam cyn-gymhwyso er mwyn cyflwyno cais ar gyfer contractau caffael cyhoeddus, ac mae hynny’n atal microfusnesau rhag cystadlu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru greu un brand cyfarwydd i gael mynediad at gymorth i fusnesau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu argymhelliad yr adroddiad i leihau’r baich rheoleiddio ar ficrofusnesau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno polisi ‘un i mewn ac un allan’ ar gyfer rheoliadau sy’n effeithio ar ficrofusnesau; a
b) cyflwyno cymal machlud ar gyfer yr holl reoliadau newydd sy’n effeithio ar ficrofusnesau er mwyn asesu eu heffeithiolrwydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
7 |
25 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Strategaeth Microfusnes yn cynnwys darpariaeth i fynd i’r afael â mannau gwan ar gyfer derbyn band eang fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan bob microfusnes fynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4903 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu Adroddiad y Grwp Gorchwyl a Gorffen Microfusnes ac ymrwymiad y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i lunio cynllun ar gyfer gweithredu polisi a strategaeth Microfusnes.
Yn nodi argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru greu un brand cyfarwydd i gael mynediad at gymorth i fusnesau.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Strategaeth Microfusnes yn cynnwys darpariaeth i fynd i’r afael â mannau gwan ar gyfer derbyn band eang fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan bob microfusnes fynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18.08
Daeth y cyfarfod i ben am 18.13
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 1 Chwefror 2012